
Mae Partneriaeth Ogwen yn prysur gynllunio prosiect newydd yn Nyffryn Ogwen, ar y cyd gyda Balchder Bro, Ynni Ogwen a phartneriaid cymunedol eraill. Enw'r prosiect yw Egin Ogwen, ag y weledigaeth yw adfywio strydoedd Bethesda gyda phwnc all bawb ymgysylltu a – bwyd!
Bydd prosiect Egin Ogwen y gweithio gyda gwirfoddolwyr i drawsnewid ardaloedd o amgylch Bethesda sydd angen ychydig o sylw (e.e.. y potiau tyfu tu allan I Spar). Ond, yn lle plannu blodau a choed dibwrpas, byddem yn plannu llysiau, perlysiau a choed ffrwythau er les y gymuned. Y rhan pwysicaf yw bydd unrhyw berson yn cael pigo a bwyta'r cynnyrch yma!
Ein gobaith yw I annog pobol lleol I gymeryd rhan mewn plannu a thyfu bwyd, addysgu ei’n gilydd ar y manteision o fwyta bwydydd ffres, ag drwy hyn meithrin ymdeimlad o gydlyniad rhwng pobol y dyffryn yn ogsytal ag ymdeimlad o barch at ble rydym yn byw! Rydym yn gobeithio cyflawni’r nodau hyn drwo gweithio gyda’n gilydd I rannu ein brwdfrydedd ac arbenigedd, ag drwy dysgu am blanhigion bwytadwy; boed yn y maes, yn yr ystafell ddosbar neu’r gegin.
Mae prosiectau tebyg I hyn yn bodoli ledled Gymru a Prydain ac mae eu nod yn fras yr un peth; i ddod â chymunedau at ei gilydd drwy ddechrau sgwrs am fwyta bwydydd iach, ffres ac organig. Mae'r prosiect hwn yn ceisio addysgu pobl Dyffryn Ogwen am fwyd mewn modd cynhwysol a llawn hwyl, yn tynnu pobl oi tai i fwynhau ein tref, ac i ddatblygu ymdeimlad cryfach o berchnogaeth a pherthyn. Mae gan y prosiect budd i'r gymuned gan y bydd pobol yr ardal yn cael eu hannog i ymgysylltu â'n siopau, caffis a mentrau lleol, ag bydd ein stryd fawr yn cael ei drawsnewid i mewn i dirwedd gwyrdd a bwytadwy trwy ddod â mwy o fywyd (yn llythrennol) i'r stryd fawr.
Mae'r cynllun tyfu cymunedol Egin Ogwen yn croesawu unrhyw un o unrhyw oedran i ymuno â ni i gyflawni'r nodau hyn, faint bynnag o brofiad. Y cyfan yr ydym yn gofyn amdano yw llond berfa o frwdfrydedd a pharodrwydd i gael eich dwylo'n fudr!
Os oes genych ddiddordeb mewn gwirfoddoli fel rhan o'r prosiect cysylltwch â Beca Roberts ar Enable JavaScript to view protected content., neu drwy ein grwp Facebook ‘Egin Ogwen’.
Galeri
























Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 24/09/18