
Beth yw Ynni Lleol?
Mae Ynni Lleol yn brosiect cymunedol sydd, drwy helpu chi i gyfateb eich defnydd o drydan gyda phŵer hydro lleol, yn eich galluogi i gymryd rheolaeth dros eich biliau trydan wrth gefnogi ynni adnewyddadwy lleol.
Sut mae'n gweithio?
Pan fyddwch yn cofrestru i Ynni Lleol byddwch yn dod yn rhan o Glwb Ynni. Mae'r clwb yn cynnwys aelodau o'ch cymuned, yn ogystal â hydro lleol. Fel aelod, byddwch yn cael mesurydd deallus am ddim wedi ei osod yn eich cartref a fydd yn mesur pan fyddwch yn defnyddio trydan yn ogystal â faint o drydan rydych yn defnyddio - ac felly yn helpu chi brynu pŵer mewn ffordd well.
Os yw aelodau o'r clwb yn defnyddio pŵer pan fydd y hydro yn cynhyrchu, bydd yr hydro yn derbyn 7c / fesul kWh (cilowat awr) o ynni. Bydd yr ynni a gynhyrchwyd gan yr hydro yn cael ei rannu yn gyfartal rhwng yr holl gartrefi sy'n defnyddio trydan ar y pryd a bydd pob cartref yn talu 7c / kWh am eu cyfran. Mae 7c/kWg tua hanner y pris cyfartalog o drydan yn y DU, ond yn bris llawer mwy na'r bysa'r hydro fel arfer yn derbyn drwy werthu'r trydan cynhyrchwyd - felly mae pawb yn ennill!
Bydd unrhyw bŵer ychwanegol sydd ei angen gan aelwyd yn cael ei ddarparu gan Cooperative Energy, bydd yn gwerthu trydan i chi ar brisiau gwahanol ar amseroedd gwahanol o'r dydd. Ar y tariff hwn, mae'r diwrnod yn cael ei rhannu'n bedwar darn - byddwch yn talu mwy ar adegau poblogaidd (brecwast ac amser swper) ac yn llai pan mae'n dawelach.
Mae clwb cyd ynni yn trefnu nifer o ddigwyddiadau, er engraifft yr Fair Arbed Ynni, lle roedd cyfle I bobl drafod cyfleon i arbed ynni ofewn y cartref gyda arbenigwyr lleol.
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 01/11/19