
Mae Dyffryn Gwyrdd yn brosiect wedi'i leoli yn Nyffryn Ogwen sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a'r amgylchedd, wrth fynd i'r afael â lles meddyliol, gwahanol fathau o dlodi, ac arwahanrwydd gwledig. Fe'i hariennir gan y Loteri Genedlaethol a bydd yn rhedeg am dair blynedd, rhwng Medi 2020 a 2023.
Byddwn yn datblygu’r Dyffryn Gwyrdd i fod yn esiampl o ddatblygiad cynaliadwy gyda chynllun trafnidiaeth gymunedol werdd, cynnal gerddi cymdeithasol, creu systemau i gynhyrchu a dosbarthu bwyd a phrydau, creu cynnydd mewn cyfleoedd gwirfoddoli, gwella sgiliau a chreu swyddi.
Byddyn hefyd yn datblygu Hwb y Dyffryn Gwyrdd yn Stryd Fawr Bethesda i fod yn ganolfan ar gyfer cyngor a chymorth ar effeithlonrwydd ynni i’n trigolion. Bydd hyn yn grymuso’n cymunedau i wireddu’n gweledigaeth o gymuned deg, gynaliadwy ddwyieithog sy’n cydweithio i liniaru ar dlodi drwy gydweithio amgylcheddol.
Gwirfoddoli
Mae yna nifer o wahanol gyfleoedd gwirfoddoli ar amrywiol brosiectau Partneriaeth Ogwen. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Enable JavaScript to view protected content..
Galeri






Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 19/04/22