
Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud eich cartref yn gynhesach, lleihau lleithder, bod yn fwy effeithlon o ran ynni - ac arbed arian i chi yn y broses.
Gallai fod yn rhywbeth mor syml â chadw drws yr ystafell ymolchi ar gau wrth gawod, i brosiectau mwy cymhleth, fel inswleiddio'ch tŷ.
Fel rhan o brosiect Dyffryn Gwyrdd, gallwn roi cyngor diduedd yn ymwneud â defnyddio ynni domestig, a'ch cyfeirio at arbenigwyr lle bo angen.
Efallai eich bod am nodi beth sy'n achosi tamprwydd yn eich cartref, neu ddarganfod sut i ddefnyddio'ch gwresogyddion storio, neu hyd yn oed osod system thermol solar.
Rydym hefyd yn gallu rhoi cyngor ar gefnogaeth sydd ar gael os ydych chi'n cael trafferth talu'ch biliau tanwydd.
Beth bynnag fo'ch ymholiad, croeso i chi gysylltu trwy e-bost (Enable JavaScript to view protected content.) neu alw heibio i'n swyddfeydd - y rhai porffor ar Stryd Fawr Bethesda.
Wythnos Fawr Werdd 2022
Mi fydd Dyffryn Gwyrdd yn cynnal ambell ddigwyddiad arbennig fel rhan o ddathliadau yr Wythnos Fawr Werdd 2022 gan Climate Cymru
Am rhagor o wybodaeth ewch i wefan Climate Cymru a'r wybodaeth am yr Wythnos Fawr Werdd
Holiadur Costau Byw
Rhannwch eich barn am sut mae'r argyfwng costau bywyd yn effeithio arnoch chi a'r gymuned drwy gwblhau ein holiadur Costau Byw ar-lein yma:
https://forms.gle/hrdT811LKkPFhdbT8
Neu cysylltwch â Enable JavaScript to view protected content. i dderbyn copi caled neu gopi ysgrifen bras.
Atebion i'ch cwestiynau ynni
Mae gen I ddiddordeb mewn cael paneli solar ar gyfer fy nghartref. A allwch fy nghynghori ar sut I wneud hyn? - John Jones
Mae'r ffeiliau atodedig yn daflenni gwybodaeth a chyngor a grëwyd gan Travis Perkins, sy'n fan cychwyn gwych.
LAWRLWYTHIADAU
- Boileri - dewis yr un iawn [size: 211 kB]
- Grantiau ac Arian ar gyfer Arbed Ynni [size: 304 kB]
- Mesuryddion Clyfar a’ch Biliau Ynni [size: 301 kB]
- Bod yn Ynni Effeithlon yn y Cartref [size: 319 kB]
- Delio gyda Lleithder [size: 388 kB]
- Insiwleiddio [size: 397 kB]
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 30/08/22