
Mi ryda ni efo diddordeb adnewyddu’r insiwleiddio sydd yma - mae o tua 30 mlynedd oed erbyn hyn.
Elli di anfon manylion am gwmnia lleol all wneud y gwaith? - Enid Roberts
Huw -
Yn ddifyr, mi esh i ar y gwgl ar ol derbyn dy ebost a'r cwmni agosaf oedd yn cael ei argymell gan y corff ymabarel yn Wrecsam - bwlch yn y farchnad yn fanna 'does!
Efallai gyda'ch deunydd chi mor hen mae'n amser i'w uwchraddio, ond mae hyn yn dibynnu ar ei chyflwr.
Wedi dweud hynny, dwi wedi copio Guto Broschoot o Cyd -Ynni'i fewn gan fod o'n arbenigydd ar hyn - ac yn byw'n Nhregarth!
Judith -
Dwi wrthi'n edrych ar ynysu fy hun - lloriau yn achos ni. Mae'r gwerthwyr a gweithwyr arferol yn argymell Kingspan neu rywbeth cyffelyb, bwrdd stiff sydd wedi wneud o ryw fath o foam. Rheina ydi'r opsiwn rhataf am wn i.
Dwi yn bersonol yn ceisio edrych hefyd am ddeunyddiau naturiol, ac mae nifer o werthwyr ar lein sy'n egluro am ddeunyddiau ynysu fel gwlân, cork, hemp, a wood a plant fibres. Mae'r rheiny yn gadael aer a lleithder drwodd yn well, ac mae hyn yn bwysig mewn hen dŷ. Mantais arall ydi bod nhw'n ddefnyddiau planhigion, ac felly modd eu compostio neu waredu'n naturiol ar ôl iddyn nhw orffen bod yn ddefnyddiol, ac mae rhai o'r ffeibrau yna yn well wrth atal tân hefyd na'r foam boards.
Dyma ddolen i Dŷ Mawr yn Aberhonddu sy'n gwerthu deunyddiau adeiladu cynaliadwy https://www.lime.org.uk/, a maen nhw'n rhoi cyngor da hefyd ar eu gwefan neu dros y ffôn. Mae na rai eraill i chi gael gwybodaeth: Mike Wye, https://naturalinsulations.co.uk/, a mae na wybodaeth ar safle CAT ym Machynlleth hefyd.
O ran weithwyr lleol sydd efo profiad o weithio gyda deunyddiau mwy naturiol, dwi'n gwybod bod y rhain wedi gwneud:
Inner World, Rachub,
Kevin Lomax neu Tom Goodey (lime plaster; ond mae hyn ar gyfer waliau mwy na to).
O ran y to, credaf i mai gwlân sy'n rhoi'r gwerth ynysu gorau i chi, ac mae gwlân yn eithaf hawdd i osod eich hun.
Cofiwch hefyd bod chi isio edrych ar y tŷ i gyd - ynysu, cadw'r tŷ yn sych, awyru - ar yr un pryd oherwydd gall trin yr un effeithio ar y llall.
Gobeithio bod hyn yn ddechrau defnyddiol; dowch yn ôl i gael sgwrs arall os dach chi isio!
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 24/08/21