
Plannu Coed
Rydym yn cymryd rhan mewn amryw o brosiectau plannu coed parhaus o amgylch Dyffryn Ogwen. Mae coed cynhenid nid yn unig yn darparu lloches a bwyd i adar ac anifeiliaid, mae hefyd yn helpu i atal newid hinsawdd drwy amsugno CO2 o'r aer ac yn sefydlogi lefel y dŵr. Yn 2020, plannwyd coed derw gaethon ni fel rhodd gan gwmni DEG yn y Gerlan a gyda help yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nant Ffrancon.
Rydym ni newydd fod wrthi yn plannu rhagor o goed ffrwythau ar draws y Dyffryn. Weler eitem ar Heno 17.01.22 yma am rhagor o wybodaeth
Perllanau Ogwen
Y bwriad wrth greu perllanau cymunedol yw dod â phobl at ei gilydd, dysgu sut i drin coed ffrwythau, dysgu am gynefinoedd a rhywogaethau pwysig. Wrth weithio gyda'n gilydd, gallwn gynyddu faint o fwyd lleol a thymhorol sydd ar gael (yn rhad ac am ddim!), bwyta a phrosesu bwyd gyda'n gilydd, lleihau unigrwydd, ac efallai hyd yn oed creu cyfle am fusnes bach neu ddau? Rydym wedi plannu coed ffrwythau mewn 6 safle ar hyd yn dyffryn yn ngaeaf 2020-21 (gyda grantiau gan Ffermydd & Gerddi Cymdeithasol a Chyngor Gwynedd), wedi rhoi coed i unigolion, a byddwn yn dod at ein gilydd eto fel grŵp perllan unwaith mae'r rheolau yn caniatau hynny.
Gerddi a rhandiroedd
Mae gennym nifer o brosiectau ar y gweill yn ymwneud â gerddi a rhandiroedd (dechrau 2021). Bwriad prosiectau garddio unwaith eto yw dod at ein gilydd i leihau unigrwydd, tyfu bwyd lleol i'w defnyddio yn ein cymuned, dysgu oddi wrth ein gilydd am arddio a choginio. Mae garddio hefyd yn llesol fel ymarfer corff ac yn dda i gael gwared o stress! Hefyd wrth gwrs mae'n gyfle i harddu'r ardal gyda blodau a pherthi sy'n denu pryfed sy'n bwysig wrth beillio'r cnydau i gyd! A chreu digwyddiadau o gwmpas bwyd!
Holiadur Costau Byw
Rhannwch eich barn am sut mae'r argyfwng costau bywyd yn effeithio arnoch chi a'r gymuned drwy gwblhau ein holiadur Costau Byw ar-lein yma:
https://forms.gle/hrdT811LKkPFhdbT8
Neu cysylltwch â Enable JavaScript to view protected content. i dderbyn copi caled neu gopi ysgrifen bras.
Fideo
Galeri







Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 13/01/23