Er fod sawl cymuned clos a byrlymus yn Nyffryn Ogwen mae unigedd hefyd yn bodoli ac yn creu pryder i sawl aelod o'n cymdeithas. Wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Gwynedd mae'n prosiect Cyfaill Cymunedol wedi hen ennill ei le erbyn hyn ac mae Linda Brown yn wyneb cyfarwydd yn myn o dy i dy yn codi calonnau a sgwrsio! Yn ogystal a bod yn gwmni i unigolion, mae'r Cyfaill yn gallu cyfeirio ymlaen at sefydliadau a chyrff sy'n cynnig cygor a chefnogaeth fel Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. Fel un o brosiectau Partneriaeth Ogwen rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Hwb Ogwen sy'n gallu rhoi cyngor am fudd-daliadau, cyngor ar ynni a chefnogaeth gyda pecynnau bwyd. Mae Linda hefyd yn gallu trefnu cludiant yng ngherbydau trydan y Dyffryn Caredig, boed hynny ar gyfer apwyntiadau meddygol, tripiau siopa neu teithiau hamdden i ymweld a chnaolfannau garddio ac ati. Hefyd, mae'r gwasanaeth cludo prydau bwyd o Gaffi Coed y Brenin yn digwydd unwaith yr wythnos ar Ddydd Iau. Cysylltwch a'r Caffi osod eich archeb ac fe'i danfonwn ich drws - 01248 602550 a gofynwch am Linda. https://www.agoriad.org.uk/caffi-coed-y-brenin---contact-us.html |
Galeri
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 21/12/23