
Mae gan Bartneriaeth Ogwen bellach dri cherbyd trydan cymunedol, Carnedd, Efan a Tryfan. Rydym wedi datblygu'r fflyd hon gyda'r nod o wneud y mwyaf o'u potensial i helpu'r gymuned, yr economi leol a'r amgylchedd.
Mae rhai o'r defnyddiau hyn yn cynnwys:
- i gludo danfoniadau bwyd Cadwyn Ogwen
- pryd ar glud trwy brosiect y Cyfaill Cymunedol
- i hebrwng cleifion i’w apwyntiadau
- i'w llogi allan gan y cyhoedd
Gallwch wneud ymholiad am logi Carnedd, y car addas i gludo cadair olwyn, neu Tryfan y fan wen gymunedol drwy gysylltu a ni - Enable JavaScript to view protected content., 07394906036
I logi Carnedd y car teulu ewch i wefan co-wheels.org.uk
Fideo
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 17/11/21