Prif Swyddog
"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen a dwi'n frwd i drafod syniadau efo unrhyw un sydd eisiau gweithio efo ni."
Cyn Reolwr Tim Sector Preifat Bwrdd yr Iaith Gymraeg a blynyddoedd o brofiad o reoli prosiectau, staff a datblygu prosiectau cymunedol. Mae’n wirfoddolwraig ar fyrddau mentrau cymdeithasol eraill ac yn caru gweithio yn y sector gymuedol. Fel Prif Swyddog, mae Meleri yn angerddol am dyfu Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth – yn amgylcheddol, gymunedol ac economaidd. Mae wedi arwain ar brosiectau mwyaf y Bartneriaeth, yn cynnwys datblygiad Ynni Ogwen, canolfan Dyffryn Gwyrdd a throsglwyddiadau asedau. Ers ei phenodiad, mae wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd Cymru yng ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a Green Energy Pioneer yng ngwobrau Regen Prydain.
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 01/10/21