
Mae Partneriaeth Ogwen yn cefnogi ein busnesau lleol yn ystod argyfwng Cofid-19 ac rydym wedi arall-gyfeirio rhai prosiectau a grantiau tuag at gynnal a chefnogi ein cymuned a’n economi leol. Rydym yn gweithio efo Ffarm Moelyci, Caffi Blas Lon Las, The Menai Seafood Company Limited, Cosyn Cymru a chynhyrchwyr lleol eraill i ddatblygu system archebu, talu a dosbarthu bwyd ar lein ar wefan Cadwyn Ogwen. Bydd y gwaith pecynnu yn cael ei wneud draw yn Ffarm Moelyci cyn i’r cynnyrch gael ei ddanfon yn Carwen y car cymunedol trydan. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fusnesau lleol barhau i werthu eu cynnyrch yn ystod yr argyfwng. Tu hwnt i Covid-19, bydd y prosiect yn anelu i godi ymwybyddiaeth o gynnyrch lleol, lleihau milltiroedd bwyd a lleihau allyriadau carbon a bydd hyn yn rhan fawr o’r marchnata ar gyfer y prosiect.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan arian grant Arfor yn 2020 a byddwn yn datblygu cynllun busnes i’w gynnal tu hwnt i gyfnod y grant.
Os hoffech chi werthu eich cynnyrch ar Cadwyn Ogwen cysylltwch â ni neu llenwch y ffurflen ymholi https://www.ogwen.wales/en/cadwyn-ogwen-enquiry/
Fideo
Galeri

Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 02/10/21