
Yn dilyn pryderon cynyddol am y rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn Nyffryn Ogwen, trefnodd Partneriaeth Ogwen ddiwrnod i drafod cludiant cymunedol yn y Dyffryn. Daethpwyd a nifer o bartneriaid at ei gilydd i drafod pryderon ond cafwyd cyflwyniadau hefyd ar geir trydan a'r posibiliadau o ran creu system drafnidiaeth gynaladwy i'r Dyffryn. Bydd y Bartneriaeth yn ymgynghori ymhellach gyda'r gymuned a phartneriaid i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach. Diolch i SPEnergy Networks a Cludiant Cymunedol Cymru am noddi'r digwyddiad a diolch i'r holl gyfranwyr am wneud y diwrnod yn llwyddiant.
Os hoffech fynegi eich barn am gludiant cyhoeddus yn Nyffryn Ogwen, mae croeso i chi lenwi’r holiadur ar-lein yma neu gallwch alw heibio Swyddfa Partneriaeth Ogwen, 26 Stryd Fawr, Bethesda i lenwi holiadur papur https://www.surveymonkey.co.uk/r/DH88V6K
Galeri






Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 02/10/21