Crëwyd Cadwyn Ogwen gyda chymorth busnesau lleol a chyllid cyhoeddus fel ffordd o gefnogi cynhyrchwyr a chwsmeriaid lleol yn ystod y pandemig yn 2020. Ar adeg pan nad oedd llwybrau arferol i’r farchnad ar gael, rhoddodd Cadwyn Ogwen lwyfan ar-lein i gynhyrchwyr werthu i gwsmeriaid a darparu gwasanaeth danfon wythnosol tu fewn i ardal Dyffryn Ogwen gan ddefnyddio ein cerbydau trydan cymunedol.
Ers hynny mae Cadwyn Ogwen wedi parhau i dyfu a bellach yn gweithio gyda dros 25 o gynhyrchwyr yn cynnig dros 600 o gynhyrchion.
Mae 2023 wedi gweld ehangu pellach ar gyfer Cadwyn Ogwen wrth i ni ym mis Ebrill ymuno â Hwb Bwyd Dyffryn Nantlle i gynnig hyd yn oed mwy o ddewis i’n cwsmeriaid Dyffryn Ogwen ac ehangu’r sylfaen cwsmeriaid ar gyfer ein cynhyrchwyr. Ymhellach ym mis Medi fe wnaethom sefydlu partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor i greu man codi cyfleus i fyfyrwyr a staff.
Gall cwsmeriaid archebu ar-lein yn cadwynogwen.cymru erbyn hanner dydd ar ddydd Mawrth ar gyfer danfoniad lleol ar ddydd Iau neu gasglu gan un o’n partneriaid lleol – Llaethdy Gwyn, Bethesda; Caffi Blas Lôn Las, Tregarth; Tyddyn Teg, Bethel; a Phrifysgol Bangor.
Fideo
Galeri
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 06/12/23