Hafan

Menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen

Fel menter gymunedol rydym yn

  • Darparu gwasanaeth clercio i gynghorau cymuned yr ardal
  • Datblygu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol
  • Rheoli eiddo a datblygu prosiectau trosglwyddo asedau cymunedol
  • Cefnogi prosiectau sy’n creu cymuned iach, bywiog a chynaladwy

Sefydlwyd Partneriaeth Ogwen yn 2013, a hynny trwy gydweithio arloesol gan Gynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai i ddarparu gwasanaeth clercio i’r 3 chyngor ac i ddatblygu prosiectau cymunedol.

Ers ein sefydlu, rydym wedi agor Swyddfa Ogwen a Siop Ogwen ar Stryd Fawr Bethesda, rheoli eiddo yn cynnwys fflatiau, busnesau a Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen. Rydym hefyd wedi datblygu prosiectau amgylcheddol llwyddiannus yn cynnwys sefydlu cynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.

Adroddiad Blynyddol

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Ogwen 2024 (Cymraeg) [2.7 MB]

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Ogwen 2024 (Saesneg) [2.8 MB]

Sylw

Cynghorau Cymuned

Cynghorau Cymuned

Yma cewch restr o gynghorwyr a cofnodion cyfarfodydd.

Beics Ogwen

Beics Ogwen

Ydych chi angen llogi beic yng Ngwynedd? Mae gennym ni fflyd o feics, yn cynnwys rhai trydan ar gael. Defnyddiwch y ddolen isod i ddysgu mwy.

Atal Tlodi

Atal Tlodi

Ydych yn poeni am gostau byw ac eisiau help a syniadau i leihau'r biliau? Gall Hwb Ogwen roi cymorth a chyngor i drigolion Dyffryn Ogwen i helpu atol tlodi.

Trafnidiaeth Cymunedol

Trafnidiaeth Cymunedol

Mae Dyffryn Caredig yn darparu trafnidiaeth werdd i gymuned Dyffryn Ogwen. Mae gennym fflyd o gerbydau trydan ar gyfer defnydd y trigolion, yn cynnwys dwy fws gwennol, dwy fan a char.

Llogi Gofod

Llogi Gofod

Mae Partneriaeth Ogwen wedi trawsnewid yr hen adeilad ysgol yn adnodd cymunedol modern sydd ar gael i drigolion y Dyffryn. Mae'r canolfan yn cynnwys yr Ystafell Gymunedol, y Gydweithfa, y Gofod Gwneud â'r Gegin.


Calendr



Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 13/05/25

© 2025 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design