Ynni Ogwen

Mae Ynni Ogwen Cyf yn gymdeithas budd cymunedol sy’n gweithredu er budd amgylcheddol a chymdeithasol Dyffryn Ogwen.

Ynni Ogwen

Partneriaeth Ogwen fu’n gyfrifol am ddatblygu cynllun hydro Ynni Ogwen yn ei blynyddoedd cynnar. Roedd hyn yn cynnwys arwain grwp o wirfoddolwyr cymunedol i ddatblygu cynllun busnes, ceisiadau cynllunio ac echdynnu dwr, astudiaethau dichonoldeb a chodi arian trwy gynllun cyfranddaliadau cymunedol. Buddsoddwyd amser sylweddol i gefnogi datblygiad y cynllun a sefydlwyd Ynni Ogwen Cyf fel endid cyfreithiol annibynnol yn 2015. Mae cyfansoddiad Ynni Ogwen Cyf yn eu bod yn creu budd cymunedol trwy:


(a) Gefnogi gweithgarwch Partneriaeth Ogwen (rhif cofrestru cwmni 08430083) a gweithgarwch gymunedol ac elusennol ym Methesda a chymunedau cyfagos.
(b) Datblygu a gweithredu prosiect neu brosiectau ynni adnewyddadwy a phrosiectau budd cymunedol eraill.


Rydym yn parhau i gydweithio’n agos gyda Ynni Ogwen, gyda Ynni Ogwen yn arwain ar brosiectau cynhyrchu ynni a Partneriaeth Ogwen yn arwain ar ddatblygu prosiectau amgylcheddol ehangach megis cludiant gwyrdd, tyfu cymunedol, atal tlodi tanwydd ayyb.


Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt Ynni Ogwen
Cyfeiriad 26 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AE
E-bost E-bost
FaceBook Gweld

Fideo


Map Lleoliad

Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 24/05/24

© 2024 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design