Beth sydd ar gael yn Hwb Ogwen?
Dydd Mawrth a dydd Iau – 10yb tan 6yh
- Pecyn bwyd – hyd at 6 eitem ar gael yn wythnosol i unrhyw un sydd mewn argyfwng (pasta/reis/grawnfwyd/bara/llefrith/beans/saws parod) ac yn gallu cyfeirio unigolion at fanc bwyd lleol
- Talebau ynni (yn dilyn pasio meini prawf)
- Cyngor arbed ynni
- Cyngor am fudd-daliadau
- Cyngor ar filiau cartref – dŵr, nwy, trydan
- Cymorth gyda llenwi ffurflenni e.e tocyn bws, cais am fathodyn glas
- Sesiynau galw heibio gan Gwaith Gwynedd, Cyngor ar Popeth (CAB) a Gwynedd ddigidol
Nos Fercher olaf o bob mis– 4yh tan 6yh – Canolfan Cefnfaes
Swpar Chwaral – cyfle i gymdeithasu mewn gofod cynnes, a chael swpar am ddim! Erbyn hyn mae tua 20 o bobl yn dod bob mis ac tim da o wirfoddolwyr yn helpu weini’r bwyd a glanhau y gegin ar ol gorffen. Rydym yn gallu cynnig trafnidiaeth am pris rhesymol hefyd.
Dydd Gwener – 4yh ymlaen
Clwb Bwyd Dyffryn Ogwen – cynllun atal gwastraff bwyd hefo Fareshare, sydd ar agor i’r gymuned gyfan. Bag o fwyd (lucky dip) sy’n cynnwys cynnyrch fel ffrythau, llysiau, caws a cig am £4.50. Mae’r bagiau yn boblogaidd iawn ac yr 30 bag yn gwerthu yn gyflym.
Manylion Cyswllt
Enw Cyswllt | Hwb Ogwen |
Cyfeiriad | 57, Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AR |
Symudol | +44 7862 694163 |
E-bost | E-bost |
Gweld |
Map Lleoliad
Oriel
Tudalen wedi ei diweddaru: 21/05/24