Os ydych chi’n cael trafferth gyda’r argyfwng costau byw ac angen cyngor, dewch i’n gweld ni yn Hwb Ogwen. Rydym ar agor ar ddydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10am a 6pm a gallwn gynnig cymorth gyda'r canlynol:
- Pecynnau bwyd brys o hyd at 6 eitem ar gael yn wythnosol i unrhyw un mewn angen (pasta,reis, grawnfwyd, bara, llefrith, ffa, saws parod). Gallwn hefyd gyfeirio unigolion at fanc bwyd lleol
- Talebau ynni i'r rhai sy'n cyrraedd y meini prawf
- Cyngor ar arbed ynni a gwneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon
- Cyngor ar fudd-daliadau i sicrhau eich bod yn hawlio popeth y mae gennych hawl iddo
- Cyngor ar filiau cartref – dŵr, nwy, trydan
- Cymorth gyda llenwi ffurflenni e.e. tocynnau bws, cais am fathodyn glas
Rydym hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd gan Waith Gwynedd, Cyngor ar Bopeth (CAB) a Gwynedd Ddigidol. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd - https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Costau-Byw.aspx
Manylion Cyswllt
Enw Cyswllt | Hwb Ogwen |
Cyfeiriad | 57 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AR |
Symudol | +44 7862 694163 |
E-bost | E-bost |
Gweld |
Map Lleoliad
Tudalen wedi ei diweddaru: 30/04/24