Mae Dyffryn Caredig yn un o brosiectau Partneriaeth Ogwen sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth cymunedol.
Mae'r prosiect yma yn dilyn llwyddiant y Dyffryn Gwyrdd, oedd yn brosiect 3 mlynedd ariennwyd gan Gronfa Cymunedol y Loteri Genedlaethol.
Ein bwriad gyda'r prosiect hwn yw i ddarparu fflyd o gerbydau a beics trydan ar gyfer defnydd cymunedau Dyffryn Ogwen - Beics Ogwen a Bws Ogwen.
Rydym yn cydweithio yn agos gydag unigolion, ysgolion, cymdeithasau a sefydliadau y Dyffryn er mwyn darparu cludiant gwyrdd o ddrws i ddrws ar gyfer trigolion yr ardal.
Ein prosiect diweddaraf yw sefydlu'r bws trydan cymudeol newydd gyda chefnogaeth Ynni Ogwen.
Wrth weithio yn agos gyda'n Cyfaill Cymunedol a Hwb Ogwen, rydym yn trefnu trafnidiaeth ar gyfer amrywiaeth o ddibennion - ymweliadau ac apwyntiadau ysbyty / meddyg, cyfarfodydd, teithiau cymdeithasol a digwyddiadau hamdden.
Yn ogystal â'r fflyd o gerbydau, mae gennym fflyd o feiciau trydan, beiciau hygych a beiciau arferol. Mae'r rhain ar gael i'w llogi gan Beics Ogwen ac rydym hefyd yn darparu gwasanaeth trin a thrwsio beiciau.
Rydym hefyd yn trefnu sesiynau beiciau hygyrch mewn partneriaeth â Chwaraeon Anabledd Cymru, Chwmni Byw'n Iach a Clwb Rygbi Bethesda.
Mae'r prosiect hwn tra'n cyflawni 'r uchod yn lleihau ôl troed carbon y Bartneriaeth a thrigolion Dyffryn Ogwen.
Manylion Cyswllt
Enw Cyswllt | Huw Davies |
Cyfeiriad | 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AE |
Symudol | +447394906036 |
E-bost | E-bost |
Gweld | |
Gweld |
Map Lleoliad
Oriel
Tudalen wedi ei diweddaru: 03/10/24