Gweledigaeth
Gweledigaeth Partneriaeth Ogwen dros y 3 mlynedd nesaf yw parhau creu cymuned a sefydliad cydnerth sy’n gweithredu’n arloesol er budd cymunedau Dyffryn Ogwen.
Byddwn yn gwneud hyn trwy:
• Gryfhau seiliau’r sefydliad gan gynyddu’n cymhwysedd staffio i ddarparu gwasanaethau a phrosiectau o’r ansawdd uchaf
• Gwarchod a chreu ffrydiau incwm newydd
• Atgyfnerthu ein polisiau a gweithdrefnau mewnol i warchod ein staff a gwirfoddolwyr.
• Blaenoriaethu prosiectau sy’n creu budd economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol gyda ffocws ar drosglwyddo asedau cymunedol, prynu asedau newydd i greu incwm a phrosiectau sy’n gwneud ein cymuned yn fwy gwydn a chydnerth.
Bydd ein prosiectau yn creu budd cymunedol, dwylliannol, cymunedol ac economaidd i Ddyffryn
Ogwen. Rydym yn gwneud hynny trwy ddatblygu prosiectau adfwyio mewn ymateb i anghenion ein
cymuned ac er budd ein cymuned. Ein blaenoriaethau yw,
i) Sefydlu cynlluniau a mentrau dan berchnogaeth gymunedol megis Ynni Ogwen
ii) Datblygu a rhedeg prosiectau arloesol sy’n ymateb i anghenion penodol ein cymuned ac yn dod a budd amgylcheddol, economaidd, diwyllianol neu gymdeithasol
iii) Cymryd cyfleoedd i brynu a datblygu asedau cymunedol i’w cadw dan berchnogaeth leol ac er budd ein cymuned
iv) Datblygu prosiectau cynaladwy sy’n cefnogi yr economi gylchol a lleol
v) Cynnal prosiectau sy’n atal tlodi ac yn hybu llesiant ein cymuned
Tudalen wedi ei diweddaru: 07/05/24