
Menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen
Fel menter gymunedol rydym yn
- Darparu gwasanaeth clercio i gynghorau cymuned yr ardal
- Datblygu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol
- Rheoli eiddo a datblygu prosiectau trosglwyddo asedau cymunedol
- Cefnogi prosiectau sy’n creu cymuned iach, bywiog a chynaladwy
Sefydlwyd Partneriaeth Ogwen yn 2013, a hynny trwy gydweithio arloesol gan Gynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai i ddarparu gwasanaeth clercio i’r 3 chyngor ac i ddatblygu prosiectau cymunedol.
Ers ein sefydlu, rydym wedi agor Swyddfa Ogwen a Siop Ogwen ar Stryd Fawr Bethesda, rheoli eiddo yn cynnwys fflatiau, busnesau a Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen. Rydym hefyd wedi datblygu prosiectau amgylcheddol llwyddiannus yn cynnwys sefydlu cynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.
Adroddiad Blynyddol:
Tudalen wedi ei diweddaru: 02/10/21