Mae Partneriaeth Ogwen yn arwain ar gadw sawl gardd cymunedol yn y dyffryn. Mae'r rhain yn cynnwys Gerddi Ffrancon, Llys Dafydd, Tan Tŵr a'r ardd yn Llyfrgell Cymunedol Dyffryn Ogwen.
Mae'r gerddi yn ofodau gwyrdd, braf i drigolion yr ardal fwynhau ac hefyd yn cyfrannu at hybu bio-amrywiaeth yn yr ardal. Rydym hefyd yn tyfu bwyd cymunedol yn ein gerddi ac yn annog trigolion lleol i gymryd beth maent ei angen.
Rydym yn falch bod gennym nifer o wirfoddolwyr sydd yn mynd ati i helpu cynnal a chadw y gofodau yma ochr yn ochr a'n garddwr cymunedol Barry Roberts. Os hoffech chi wirfoddoli neu datblygu eich sgiliau plis cysylltwch hefo Enable JavaScript to view protected content. i weld sut allwch gymryd rhan.
Hoffwn i'r garddwr cymunedol fod yn adnodd i'r gymuned tu hwn i'r gerddi yma. Os oes gennych chi ofod cymunedol ac eisiau ychydig o help plis cysylltwch i weld sut allwn fod o gymorth.
Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am ariannu prosiect gerddi Ogwen drwy'r grant treth tirlenwi.
Manylion Cyswllt
Enw Cyswllt | Chris Roberts |
Ffôn | 07766793945 |
E-bost | E-bost |
Map Lleoliad
Oriel
Tudalen wedi ei diweddaru: 30/04/24