GwyrddNi

Mudiad gweithredu newid hinsawdd yn Dyffryn Ogwen

GwyrddNi

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd wedi ei leoli yn, ac yn cael ei arwain gan, y gymuned. Mae’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd.

Chris Roberts yw’r hwylusydd cymunedol GwyrddNi yn Dyffryn Ogwen. Mae’n cefnogi grwpiau cymunedol i ddatblygu y 10 syniad sydd yn y Cynllun Gweithredu Cymunedol ar gyfer Dyffryn Ogwen. Mae hyn yn cynnwys tyfu bwyd yn lleol, annog defnydd o trafnidiaeth werdd, cynnal gŵyl flynyddol a llawer mwy. Gallwch cysylltu hefo Chris drwy e-bostio Enable JavaScript to view protected content.

Mae GwyrddNi yn cael ei ariannu gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’i ddarparu 6 menter gymdeithasol yn Ngwynedd, mewn partneriaeth; Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Cyd Ynni yn Nyffryn Peris, Yr Orsaf yn Nyffryn Nantlle, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, Ynni Llŷn ym Mhen Llŷn a Datblygiadau Egni Gwledig (DEG)

Yn ystod 2022-2023 bu GwyrddNi yn cynnal Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd yn y bum ardal, yn ogystal a rhaglen addysg. Roedd y Cynulliadau yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd i drafod, gwrando, rhannu, siarad, dysgu a phenderfynu efo’i gilydd beth maen nhw – fel cymuned – isio’i wneud yn lleol i daclo newid hinsawdd.

Cafodd pob tŷ yn yr ardaloedd yma wahoddiad i ymuno â’r Cynulliadau, ac o’r rhai a ddangosodd diddordeb, dewiswyd 50 o bobl o bob ardal a oedd mor gynrychiadol â phosibl o'r boblogaeth leol. Bu rhaglen addysg hefyd yn gweithio gydag ysgolion ym mhob un o’r ardaloedd, gyda phlant ysgol lleol yn ychwanegu eu syniadau. Fedrwch ddarllen mwy am broses y Cynulliadau yn ein hadroddiad: GwyrddNi - Cynllunio, Cynulliadau, Gweithredu.

Erbyn diwedd y broses, roedd pob cymuned wedi dewis cyfres o syniadau i’w blaenoriaethu, yn cynnwys rhai o syniadau’r plant ysgol. Gallwch ddarllen y syniadau prosiect yma yn y Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol ar ein gwefan: https://www.gwyrddni.cymru/cynlluniau-gweithredu/

Mae GwyrddNi nawr wedi cael pedair blynedd a hanner o gyllid pellach gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi gwaith y cymunedau yn bellach: bydd £500,000 o gyllid ar gael i’r prosiectau, wedi ei rannu yn gyfartal dros y pum ardal, er mwyn parhau i weithredu ar y syniadau yn y Cynlluniau Gweithredu.

Bydd gwaith addysg GwyrddNi hefyd yn parhau, gydag arlwy o weithgareddau a chynig i gydweithio ar gael i ysgolion a cholegau’r pum ardal, a chynlluniau i ddatblygu cyfleoedd dysgu i oedolion ar y gweill.

Bydd cyfle nawr i bobl o’r pum ardal fod yn rhan o weithredu ar y prosiectau o’r Cynlluniau Gweithredu.


Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt Chris Roberts
Ffôn 07766793945
E-bost E-bost
Gwefan Gweld
FaceBook Gweld
Instagram Gweld
Twitter Gweld

Map Lleoliad

Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 30/04/24

© 2024 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design