Trafnidiaeth Cymunedol

Mae gennym fflyd o gerbydau trydan ar gyfer defnydd cymunedau Dyffryn Ogwen.

Trafnidiaeth Cymunedol

Mae Dyffryn Caredig yn un o brosiectau Partneriaeth Ogwen sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth cymunedol.

Mae'r prosiect yma yn dilyn llwyddiant y Dyffryn Gwyrdd, oedd yn brosiect 3 mlynedd ariennwyd gan Gronfa Cymunedol y Loteri Genedlaethol.

Ein bwriad gyda'r prosiect hwn yw i ddarparu fflyd o gerbydau a beics trydan ar gyfer defnydd cymundau Dyffryn Ogwen - Beics Ogwen a Bws Ogwen.

Rydym yn cydweithio yn agos gydag ysgolion, cymdeithasau a sefydliadau y Dyffryn er mwyn darparu cludiant gwyrdd o ddrws i ddrws ar gyfer trigolion yr ardal.

Dyma'r cerbydau sydd yn rhan o fflyd Partneriaeth Ogwen:

Bysiau mini

Dwy bws mini trydan

Un bws 10 sedd gyda gyrrwr a hygyrch i gadair olwyn

Un bws 16 seddi grwpiau mwy

Prisiau yn amrywio yn ddibynnol ar pellter a niferoedd, cysylltwch am ddyfynbris a mwy o wybodaeth.

Mae'r cerbydau hein ar gael i'w llogi gyda gyrrwr sydd wedi dilyn cwrs hyfforddiant MIDAS. Roedd y fws mawr yn rhôdd gan Ynni Ogwen ac mae'n cael ei ddefnyddio yn reolaidd gan ysgolion a chymdeithasau'r dyffryn. Defnyddir y ddwy fws hefyd ar gyfer teithiau hamdden a lles - pob dim o deithiau i ganolfanau garddio, siopa mewn archfarchnadoedd, cystadleuthau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol.

Efan

Cerbyd trydan 7 sedd hygyrch i gadair olwyn ar gael gyda gyrrwr

Prisiau yn amrywio, gan ddechrau @65c y filltir.

Tryfan

Fan trydan 2 sedd fydd yn lawnsio ar rwydwaith Hiyacar o mis Mai 2024.

Carnedd

Car teulu trydan 5 sedd ar gael i'w logi drwy rwydwaith Co-wheels

Defnyddiwch y côd promo BETHESDA11 i gael pris gostyngol

Beics Ogwen

Mae gennym feiciau trydan a beiciau arferol ar gael i'w llogi neu eu benthyg.

Mae gennym feiciau hygyrch a beiciau ochr yn ochr.

Prisiau yn cychwyn o £10 am feic arferol, £20 am feiciau trydan

Am rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Beics Ogwen

Ar gael ar gyfer teithiau hamdden, digwyddiadau cymdeithasol a theithiau ysgolion.


Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt Esme
Cyfeiriad 27, Stryd Fawr, Bethesda LL57 3AE
Symudol +447394906036
E-bost E-bost

Map Lleoliad


Oriel

Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol
Trafnidiaeth Cymunedol

Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 07/08/24

© 2024 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design