Beics Ogwen

Mae Beics Ogwen yn rhan o brosiect Trafnidiaeth Gymunedol Partneriaeth Ogwen ac fe’i ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Beics Ogwen

Mae Beics Ogwen yn rhan o brosiect Trafnidiaeth Gymunedol Partneriaeth Ogwen ac fe’i ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae gennym feiciau trydan a beiciau arferol ar gael i'w llogi ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr fel rhan o'n gwaith i hybu trafnidiaeth cynaladwy a thwristiaeth werdd.

Er mwyn bod yn gymhwysol, mae gennym fflyd o feiciau hygyrch a beiciau ochr yn ochr, ac rydym yn rhedeg sesiynau beicio hygyrch rheolaidd yn y Nghlwb Rygbi Bethesda mewn partneriaeth â Chwaraeon Anabledd Cymru a Chwmni Byw'n Iach.

Mae Beics Ogwen hefyd yn cynnig gwasanaeth trin a thrwsio beics - holwch am argaeledd a phrisiau ac rydym yn barod iawn i ddarparu cyngor ar adnabod eich beic ac ar retro-osod moduron trydan, a beiciau yn gyffredinol.

Ein nod gyda Beics Ogwen yw hyrwyddo lles a'r amgylchedd trwy annog mwy o bobl i feicio yn amlach. Rydym yn cydweithio gyda ysgolion a chymdeithasau lleol ac yn awyddus i hyrwyddo beicio ar hyd a lled Dyffryn Ogwen yn ein gwaith tuag at twrisitaeth gwyrdd.

Cysylltwch hefyd os hoffech chi wirfoddoli i drwsio beiciau, neu os hoffech chi roi beiciau, darnau neu offer.

Trefnir digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, sydd i'w gweld ar dudalen Dyffryn Caredig ar y wefan hon, neu ar dudalen Facebook Beics Ogwen.


Manylion Cyswllt

Cyfeiriad Canolfan Cefnfaes, Rhys Mostyn, Bethesda, Gwynedd, LL57 3AD
Symudol +44 7492 335170
E-bost E-bost
FaceBook Gweld

Map Lleoliad


Oriel

Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen

Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 19/08/24

© 2024 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design