Cyfaill Cymunedol
Yn rhinwedd ei swydd fel Cyfaill y Gymuned mae Linda yn ymweld ag amryw o drigolion ardal Dyffryn Ogwen – yr henoed, a’r rhai sydd yn teimlo’n unig ac yn gwerthfawrogi cael sgwrs bach dros baned. Mae Linda hefyd yn barod i gynorthwyo unrhyw un sydd angen cymorth i fynychu apwyntiadau doctor neu i lenwi ffurflenni e.e. tocynnau bws am ddim. Mae Linda yn ceisio annog pobol I fynd i’r sesiwn ‘Cadw’n Heini’ sydd yn cael ei gynnal yn wythnosol ar ddydd Mercher yng Nghlwb Rygbi, Bethesda gan Dimentia Actif Gwynedd – mae croeso i bawb o bob oed yno. Yn dilyn y sesiwn mae cyfle I gael cinio bach a phaned. Mae Linda hefyd yn ceisio ymweld â Chlwb y Dyffryn (yr ail ddydd Mawrth ym mhob mis) yn Gorffwysfan, Stryd Fawr, Bethesda. Mae’r clwb yn falch o gael aelodau newydd bob amser – cyfle aur I bawb ddod at ei gilydd i gymdeithasu.
Os ydych chi neu unrhywun 'dachi'n adnabod eisiau gwybod mwy am sut gall y cyfaill cymunedol eich helpu, cysylltwch gyda Linda.
Manylion Cyswllt
Enw Cyswllt | Linda Brown |
Cyfeiriad | 57, Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AE |
Symudol | 07492290041 |
E-bost | E-bost |
Map Lleoliad
Oriel
Tudalen wedi ei diweddaru: 07/05/24