Hysbysiad Archwilio

Hysbysiad Archwilio

Hysbysiad o benodi’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

Cyngor Cymuned Llanllechid

Y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben 31 Mawrth 2024

Dyddiad cyhoeddi 16/06/2024

Bob blwyddyn mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, caiff unrhyw berson â buddiant gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol wrth wneud cais i:

Caroline Jones

Clerc Cyngor Cymuned Llanllechid

26 Stryd Fawr, Bethesda LL57 3AE

Enable JavaScript to view protected content.

rhwng oriau 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener

yn dechrau ar 01 Gorffennaf 2024

ac yn gorffen ar 26 Gorffennaf 2024

O 12 Medi 2024, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:

 yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.

 yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Yn gyntaf, rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig i’r cyngor hefyd.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cyngor Cymunedol, Archwilio Cymru, 1 Prifddinas-Chwarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn Enable JavaScript to view protected content..

Lawrlwythiadau

Hysbysiad archwilio 2023-24 [14.9 kB]


Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 17/06/24

© 2025 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design