Mentora Cyllid

Gwasanaeth mentora cyllid i fusnesau lleol.

Gwasanaeth ar gael i fusnesau ac unigolion hunangyflogedig

  • Dod o hyd i meddalwedd cyfrifon addas ar gyfer y cwmni
  • Sefydlu'r system gyllidol
  • Sefydlu'r gyflogres - yn cynnwys cysylltu efo CThEm
  • Gwasanaeth cyflogres sy'n cynnwys mewnbynnu staff newydd. Prosesu cyflogau a gyrru'r wybodaeth perthnasol i CThEm.
  • Sefydlu cynllun pensiwn cyfredol a sefydlu ar y feddalwedd newydd.
  • Prosesu taflenni amser ar gyfer y gyflogres.
  • Gweinyddu'r gyflogres yn fisol neu yn wythnosol.
  • Sefydlu'r system gyfrifo. Bydd hyn yn cynnwys mewnbynnu unrhyw wybodaeth cychwynnol fel balansau banc, sefydlu ffrwd banc awtomatig, creu canolfannau cost ar gyfer gwariant y gyllideb, mewnbynnu gwybodaeth y sefydliad yn y feddalwedd, creu templed ar gyfer anfonebu a sicrhau bod yr holl wybodaeth cyllidebol angenrheidiol yn cael ei gyflwyno i CThEm yn awtomatig.
  • Cynnal y cyfrifon yn ddyddiol drwy gysoni'r trafodion, a'i codio i'r canolfannau cost cywir.
  • Defnyddio'r wybodaeth sydd wedi ei mewnbynnu i'r meddalwedd cyfrifon ar gyfer paratoi adroddiadau cyllid ar gyfer cyfarfodydd a cheisiadau grant.
  • Creu a cadw taenlenni ar gyfer taliadau/anfonebion.
  • Creu a cadw taenlenni ar gyfer tracio gwariant grantiau mewn cydweithrediad a'r prif swyddog/cyflogwr
  • Monitro cyllidebau a chostau a chynghori fel bo'r angen.
  • Anfonebu
  • Gwasanaeth TAW (os yn berthnasol)
  • Gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a delio efo CThEm drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Cynorthwyo efo sefydlu cyfrif 'Government Gateway'
  • Cofrestru i fod yn hunan gyflogedig
  • Cynorthwyo ac mentora efo hunan asesiad
  • Cynorthwyo a mentora i gwblhau ffurflenni CIC
  • Cadw cyfrifon syml ar gyfer unigolion hunan gyflogedig.

Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs cysylltwch â Lliwen ar 01248 602131 neu Enable JavaScript to view protected content.


Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 02/12/24

© 2025 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design