
Mae gan Bartneriaeth Ogwen ddwy fws mini trydan ar gyfer defnydd gan gymunedau Dyffryn Ogwen fel rhan o'n gwaith hybu trafnidiaeth cynaladwy a thwristiaeth werdd.
Mae gennym fws 10 sedd sy'n hygyrch i gadair olwyn ac mae gennym fws 16 sedd ar gyfer grwpiau mwy. Mae'r cerbydau yma ar gael i'w llogi gyda gyrrwr sydd wedi dilyn cwrs hyfforddiant MIDAS. Roedd y bws 16 sedd yn rhôdd gan Ynni Ogwen ac mae'n cael ei ddefnyddio'n reolaidd gan ysgolion a chymdeithasau'r dyffryn. Defnyddir y ddwy fws hefyd ar gyfer teithiau hamdden a lles - pob dim o deithiau i ganolfanau garddio, siopa mewn archfarchnadoedd, cystadleuthau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol.
Prisiau yn amrywio yn ddibynnol ar pellter a niferoedd, cysylltwch am ddyfynbris a mwy o wybodaeth.
Mae Bws Ogwen yn rhan o brosiect Trafnidiaeth Gymunedol Partneriaeth Ogwen ac fe’i ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Manylion Cyswllt
Enw Cyswllt | Esme Sethi |
Cyfeiriad | 27, Stryd Fawr, Bethesda LL57 3AE |
Ffôn | 01248 602131 |
Symudol | 07394906036 |
E-bost | E-bost |
Gweld |
Fideo
@partneriaethogwen Oeddech chi’n gwybod fod modd ymuno â ni ar ein taith bob yn ail brynhawn dydd Mawrth i siopa ym Mangor. Cysylltwch gyda Enable JavaScript to view protected content. am fwy o wybodaeth! Did you know you could join us on our trip to the shops every other Tuesday afternoon to Bangor. Contact Enable JavaScript to view protected content. for more information! #DyffrynOgwen #Cymuned #Bethesda #GogleddCymru #CludaintGwyrdd #GreenTransport #DyffrynCaredig ♬ original sound - Noah Kahan
Map Lleoliad
Oriel






Tudalen wedi ei diweddaru: 13/05/25