Dyffryn Caredig

Prosiect a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sy'n darparu trafnidiaeth werdd i gymuned Dyffryn Ogwen.

Dyffryn Caredig

Mae Dyffryn Caredig yn un o brosiectau Partneriaeth Ogwen sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth cymunedol.

Mae'r prosiect yma yn dilyn llwyddiant y Dyffryn Gwyrdd, oedd yn brosiect 3 mlynedd ariennwyd gan Gronfa Cymunedol y Loteri Genedlaethol.

Ein bwriad gyda'r prosiect hwn yw i ddarparu fflyd o gerbydau a beics trydan ar gyfer defnydd cymunedau Dyffryn Ogwen - Beics Ogwen a Bws Ogwen.

Rydym yn cydweithio yn agos gydag unigolion, ysgolion, cymdeithasau a sefydliadau y Dyffryn er mwyn darparu cludiant gwyrdd o ddrws i ddrws ar gyfer trigolion yr ardal.

Ein prosiect diweddaraf yw sefydlu'r bws trydan cymudeol newydd gyda chefnogaeth Ynni Ogwen.

Wrth weithio yn agos gyda'n Cyfaill Cymunedol a Hwb Ogwen, rydym yn trefnu trafnidiaeth ar gyfer amrywiaeth o ddibennion - ymweliadau ac apwyntiadau ysbyty / meddyg, cyfarfodydd, teithiau cymdeithasol a digwyddiadau hamdden.

Yn ogystal â'r fflyd o gerbydau, mae gennym fflyd o feiciau trydan, beiciau hygych a beiciau arferol. Mae'r rhain ar gael i'w llogi gan Beics Ogwen ac rydym hefyd yn darparu gwasanaeth trin a thrwsio beiciau.

Rydym hefyd yn trefnu sesiynau beiciau hygyrch mewn partneriaeth â Chwaraeon Anabledd Cymru, Chwmni Byw'n Iach a Clwb Rygbi Bethesda.

Mae'r prosiect hwn tra'n cyflawni 'r uchod yn lleihau ôl troed carbon y Bartneriaeth a thrigolion Dyffryn Ogwen.

Rydym yn chwilio am grantiau i barhau gyda gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn 2026, ac rydym angen casglu gwybodaeth ac ystadegau i gyflwyno i'r cyllidwyr. Bydd eich atebion yn helpu'r Bartneriaeth gyflwyno'r angen o drafnidiaeth gymunedol yn ardaloedd Dyffryn Ogwen, ag yr effaith mae ein gwasanaeth yn gael ar aelodau'r gymuned.

Bydd yr atebion yn hollol ddienw, ac yn cael eu defnyddio fel cefnogaeth i geisiadau grant - Arolwg Effaith Dyffryn Caredig (Trafnidiaeth Cymunedol)


Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt Esme Sethi
Cyfeiriad 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AE
Symudol +447394906036
E-bost E-bost
FaceBook Gweld
Instagram Gweld

Map Lleoliad


Oriel

Dyffryn Caredig
Dyffryn Caredig

Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 01/07/25

© 2025 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design