 
             Croeso i Lyfrgell y Petha!
Gan weithio gyda Gwasanaethau Llyfrgell Cyngor Gwynedd, Menter Môn a Benthyg Cymru, mae Partneriaeth Ogwen yn gyffrous i allu cynnig y gwasanaeth pwysig hwn i’n cymuned gan ein bod yn credu, trwy fenthyca yn lle prynu, y gallwn oll gyfrannu at gymdeithas fwy cynaliadwy, teg a chymunedol.
Mae amrywiaeth eang o eitemau ar gael i’w benthyca – o deganau plant i offer garddio, glanhawyr carpedi i fyrddau padlo, gazebos i beiriannau gwnïo. Mae teganau plant ar gael i’w benthyca am ddim, ac mae cost fach am eitemau eraill.
Sut mae'n gweithio:
- Ewch i'r wefan i greu cyfrif a gweld ein catalog gyflawn
- Archebwch eitemau
- Casglu a dychwelyd i Lyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen
Paid brynu, benthyg!
Manylion Cyswllt
| Enw Cyswllt | Petha | 
| Cyfeiriad | Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda LL57 3NL | 
| Ffôn | 07915 665259 | 
| E-bost | E-bost | 
| Gwefan | Gweld | 
| Gweld | |
| Lawrlwythiadau | 
Map Lleoliad
								


 
							
Tudalen wedi ei diweddaru: 21/03/25
