Cyfaill y Gymuned
Ar ôl gweithio ym myd y theatr am 48 mlynedd rwyf erbyn hyn yn gweithio i Bartneriaeth Ogwen fel Cyfaill y Gymuned ers Ionawr 2023. Dwi'n berson cymdeithasol ac egnïol iawn ac wrth fy modd yn cael y cyfle i ymweld a chael sgwrs gydag amryw o drigolion hŷn ardal Dyffryn Ogwen, a hefyd bod o gymorth iddynt os bydd angen. Mae rhai o'r henoed dwi'n ymweld â hwy yn teimlo'n unig iawn ar brydiau ac wrth eu bodd cael y cyfle i gael sgwrs a rhoi'r byd yn ei le. Dwi'n teimlo'n freintiedig iawn o gael swydd hollbwysig fel hon, lle mae cyfle i mi gefnogi a gobeithio hefyd, i wella ansawdd bywyd bobl hŷn yn ein cymuned.
Cyswllt - Enable JavaScript to view protected content. | 07492290041
Tudalen wedi ei diweddaru: 30/04/24