Os ydych chi’n cael trafferth gyda’r argyfwng costau byw ac angen cyngor, dewch i’n gweld ni yn Hwb Ogwen - 27 Stryd Fawr Bethesda. Rydym ar agor 5 diwrnod yr wythnos a gallwn gynnig cymorth gyda'r canlynol:
- Pecynnau bwyd brys o hyd at 6 eitem ar gael yn wythnosol i unrhyw un mewn angen (pasta,reis, grawnfwyd, bara, llefrith, ffa, saws parod). Gallwn hefyd gyfeirio unigolion at fanc bwyd lleol
- Talebau ynni i'r rhai sy'n cyrraedd y meini prawf
- Cyngor ar arbed ynni a gwneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon
- Cyngor ar fudd-daliadau i sicrhau eich bod yn hawlio popeth y mae gennych hawl iddo
- Cyngor ar filiau cartref – dŵr, nwy, trydan
- Cymorth gyda llenwi ffurflenni e.e. tocynnau bws, cais am fathodyn glas
Rydym hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd gan Waith Gwynedd, Cyngor ar Bopeth (CAB) a Gwynedd Ddigidol. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd - https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Costau-Byw.aspx

Manylion Cyswllt
| Enw Cyswllt | Hwb Ogwen |
| Cyfeiriad | 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AR |
| Symudol | +44 7862 694163 |
| E-bost | E-bost |
| Gweld |
Map Lleoliad



Tudalen wedi ei diweddaru: 18/06/25