
Mae Dyffryn Caredig yn un o brosiectau Partneriaeth Ogwen sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth cymunedol.
Mae'r prosiect yma yn dilyn llwyddiant y Dyffryn Gwyrdd, oedd yn brosiect 3 mlynedd ariennwyd gan Gronfa Cymunedol y Loteri Genedlaethol.
Ein bwriad gyda'r prosiect hwn yw i ddarparu fflyd o gerbydau a beics trydan ar gyfer defnydd cymundau Dyffryn Ogwen - Beics Ogwen a Bws Ogwen.
Rydym yn cydweithio yn agos gydag ysgolion, cymdeithasau a sefydliadau y Dyffryn er mwyn darparu cludiant gwyrdd o ddrws i ddrws ar gyfer trigolion yr ardal.
Dyma'r cerbydau sydd yn rhan o fflyd Partneriaeth Ogwen:
Bysiau mini
Dwy bws mini trydan
Un bws 10 sedd gyda gyrrwr a hygyrch i gadair olwyn
Un bws 16 seddi grwpiau mwy
Prisiau yn amrywio yn ddibynnol ar pellter a niferoedd, cysylltwch am ddyfynbris a mwy o wybodaeth.
Mae'r cerbydau hein ar gael i'w llogi gyda gyrrwr sydd wedi dilyn cwrs hyfforddiant MIDAS. Roedd y fws mawr yn rhôdd gan Ynni Ogwen ac mae'n cael ei ddefnyddio yn reolaidd gan ysgolion a chymdeithasau'r dyffryn. Defnyddir y ddwy fws hefyd ar gyfer teithiau hamdden a lles - pob dim o deithiau i ganolfanau garddio, siopa mewn archfarchnadoedd, cystadleuthau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol.
Efan
Cerbyd trydan 7 sedd hygyrch i gadair olwyn ar gael gyda gyrrwr
Prisiau yn amrywio, gan ddechrau @65c y filltir.
Tryfan
Fan trydan 2 sedd fydd yn lawnsio ar rwydwaith Hiyacar o mis Ionawr 2025.
Megan
Car drydan 5 sedd, hatchback ar gael i'w hurio ar TrydaNi o Ionawr, 2025 ymlaen.
Beics Ogwen
Mae gennym feiciau trydan a beiciau arferol ar gael i'w llogi neu eu benthyg.
Mae gennym feiciau hygyrch a beiciau ochr yn ochr.
Prisiau yn cychwyn o £10 am feic arferol, £20 am feiciau trydan
Am rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Beics Ogwen
Ar gael ar gyfer teithiau hamdden, digwyddiadau cymdeithasol a theithiau ysgolion.
Manylion Cyswllt
Enw Cyswllt | Esme Sethi |
Cyfeiriad | 27 Stryd Fawr, Bethesda LL57 3AE |
Symudol | +447394906036 |
E-bost | E-bost |
Fideo
@partneriaethogwen Megan y Megane, car drydan ar gael i’w hurio nawr trwy app TrydaNi! #Cymuned #Cymraeg #CludiantCymunedol #CommunityTransport #CludaintGwyrdd #GreenTransport #tiktokpoll ♬ Amsterdam - Gregory Alan Isakov
Map Lleoliad
Oriel






















Tudalen wedi ei diweddaru: 13/05/25