Hwb Ogwen

Mae Hwb Ogwen yn dod a phobl at ei gilydd i gefnogi iechyd a lles, atal tlodi a chreu cymuned ofalgar sy'n edrych ar ôl ein gilydd

Hwb Ogwen

Beth ydi Hwb Ogwen?

Mae Hwb Ogwen yn llawer mwy na banc bwyd ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth i gymdogion Dyffryn Ogwen yn wyneb yr argyfwng costau byw.

Bellach mae'r Hwb ar agor 5 diwrnod yr wythnos rhwng ddydd Llun a Gwener a mae croeso i unrhyw un alw heibio am sgwrs.

Dyma'r hyn gallwn ni gynnig i chi yn yr Hwb:

  • Pecyn bwyd - hyd at 6 eitem ar gael yn wythnosol i unrhyw un sydd mewn argyfwng neu gallwn eich cyfeirio at fanc bwyd lleol
  • Talebau ynni (yn dilyn pasio meini prawf)
  • Cyngor arbed ynni
  • Cyngor am fudd-daliadau e.e. Credyd Cynhwysol, PIP, Credydau Treth
  • Cyngor ar filiau cartref - dŵr, nwy, trydan, ffôn
  • Cymorth gyda llenwi ffurflenni e.e tocyn bws, cais am fathodyn glas
  • Sesiynau galw heibio gan Cyngor ar Popeth (CAB), Cymru Gynnes, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr
  • Eich cyfeirio at wasanaethau / asantiaethau penodol yn ddibynnol ar eich ymholiad / problem

Rydym yn chwilio am grantiau i barhau gyda Hwb Ogwen yn 2026, ac rydym angen ystadegau o'r effaith mae’r gwasanaethau rydym yn eu gynnig i gyflwyno i gyllidwyr. Bydd ystadegau o'r arolwg hwn yn helpu ni ddangos yr angen am yr Hwb ar Stryd Fawr Bethesda.

Bydd yr atebion yn hollol ddienw, ac yn cael eu defnyddio fel cefnogaeth i geisiadau grant. Cwblhewch yr Arolwg yma.


Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt Hwb Ogwen
Cyfeiriad 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AR
Symudol +44 7862 694163
E-bost E-bost
FaceBook Gweld

Fideo


Map Lleoliad


Oriel

Hwb Ogwen
Hwb Ogwen

Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 06/11/25

© 2025 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design