Prosiectau Diwylliannol

Mae Partneriaeth Ogwen yn ymrwymedig i gefnogi’r iaith Gymraeg trwy drefnu digwyddiadau diwylliannol amrywiol yn Nyffryn Ogwen.

Prosiectau Diwylliannol

Mae Partneriaeth Ogwen yn ymrwymedig i gefnogi’r iaith Gymraeg. Y Gymraeg yw iaith weinyddol y Bartneriaeth a mae’n amod cyflogaeth a rydym yn falch o feithrin sgiliau iaith ein gweithle. Rydym hefyd yn datblygu prosiectau sy’n dathlu a hyrwyddo iaith, diwylliant a threftadaeth yr ardal. Mae rhain yn amrywio o ddigwyddiadau diwylliannol megis Gŵyl Gwenllïan neu Ddathliadau Dau Canmlwyddiant Bethesda i redeg siop lyfrau a chrefftau lleol – Siop Ogwen.

Ein prif brosiect diwylliannol ar hyn o bryd yw datblygu Canolfan Dreftadaeth Yr Hen Bost. Bydd y ganolfan yma yn gartref i arddangosfeydd hanes lleol ac yn gyfle i ddathlu ein hanes a’n treftadaeth.

Gyda chefnogaeth Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, fe wnaethom sefydlu prosiect hanes llafar Lleisiau Lleol yn 2023. Rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i gasglu hanesion llafar trwy gyfweliadau sain a fideo, yn ogystal â helpu grwpiau lleol i recordio lluniau a dogfennau yn ymwneud â hanes lleol. Cedwir yr holl gynnwys yng Nghasgliad y Werin a gellir ei gyrchu yma. Cysylltwch â Enable JavaScript to view protected content. am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan.

Mae’r prosiectau hyn yn codi ymwybyddiaeth ein cymuned o’n hanes a’n treftadaeth ond hefyd yn codi hyder, yn meithrin cymuned iach a chynhwysol ac yn dathlu ein hunaniaeth ddiwylliannol.


Fideo



Oriel


Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 23/09/24

© 2024 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design