Yr Hen Bost

Menter gymunedol ym Methesda, Dyffryn Ogwen i greu canolfan dreftadaeth, bwyty ac unedau busnes.

Yr Hen Bost

Mae Partneriaeth Ogwen yn falch o allu cadarnhau eu bod wedi prynu hen adeilad y Spar ar Stryd Fawr Bethesda i’w ddatblygu fel canolfan grefftau, bwyty a chanolfan dreftadaeth newydd i Ddyffryn Ogwen. Yr Hen Bost fydd enw’r ganolfan newydd a diolch i’r Prifardd Ieuan Wyn am ei gymorth wrth ddewis enw newydd a theilwng i’r safle. Ar ôl gwaith caled gan staff y Bartneriaeth ar geisiadau grant sylweddol llwyddwyd i brynu’r adeilad. Mae’r cyllidwyr yn cynnwys Cronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gyngor Gwynedd a Chronfa Cymunedol Eryri ac hefyd buddsoddiad gan Bartneriaeth Ogwen ei hun. Ers prynu’r adeilad, mae’r Bartneriaeth hefyd wedi llwyddo gyda chais i Gronfa Cymunedau Mentrus Llywodraeth y DU i ariannu costau pensaerniol ar gyfer y safle. Comisiynwyd Penseiri PEGWA i ddatblygu dyluniadau ar gyfer datblygu’r eiddo. Mae Elinor Gray Williams y prif bensaer yn arbenigwraig ar bensaerniaeth cadwriaethol a chynaladwy a bwrieir datblygu’r safle i safonau carbon niwtral a chreu adeilad sy’n adlewyrchu treftadaeth chwarelyddol yr ardal.

Bydd gwaith adeiladu yn dechrau ar Yr Hen Bost ar Stryd Fawr Bethesda erbyn diwedd mis Ionawr, 2025.

Cyllidir y datblygiad trwy gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth San Steffan a chronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.


Manylion Cyswllt


Fideo


Map Lleoliad


Oriel

Yr Hen Bost
Yr Hen Bost
Yr Hen Bost
Yr Hen Bost
Yr Hen Bost
Yr Hen Bost
Yr Hen Bost
Yr Hen Bost

Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 17/07/25

© 2025 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design